Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (79) |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1– 4, 6 – 12 ac 14 - 15. Cafodd cwestiynau 5 ac 13 eu tynnu yn ôl.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.10
Gofynnwyd cwestiynau 1– 7, 10 – 11 ac 13 - 15. Cafodd cwestiynau 7 ac 14 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 8, 9 ac 12 eu tynnu yn ôl. Atebwyd cwestiynau 6 ac 13 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.56
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am y goblygiadau i Remploy yng Nghymru yn sgîl datganiad Maria Miller, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Bobl Anabl, am benderfyniad Bwrdd Remploy.
3. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddinas-ranbarthau
Dechreuodd yr eitem am 15.05
4. Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.47
NDM5033 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Datganiad gan y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd fod Darren Millar wedi ennill balot yr Aelodau i gyflwyno cynnig ar gyfer deddfwriaeth. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.91, caiff Darren Millar, felly, geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ynghylch Ardoll Gwm Cnoi.
5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar reoli sŵn o dyrbinau gwynt
Dechreuodd yr eitem am 16.38
NDM5036 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Swn Tyrbinau Gwynt, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Gorffennaf 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5035 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio modelau eraill dielw o berchnogaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n esgor ar y manteision mwyaf posibl i’r cyhoedd ac i deithwyr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
4 |
12 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.07
7. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.09
NDM5034 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Anrhydeddu ein Harwyr – Gwarchod Cofebau Rhyfel yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18:30
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2012